OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2013 Rhif 3046 (Cy. 305)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2013
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (O.S. 1992/3238) (“Rheoliadau 1992”).
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p.41), mae’n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd yn lle’r un bresennol (Ffigurau Poblogaeth Oedolion).
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2013 Rhif 3046 (Cy. 305)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed 4 Rhagfyr 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Rhagfyr 2013
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 i’r Ddeddf honno([1]).
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu
Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr
2013.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992([2]).
Diwygio Rheoliadau 1992
2.—(1)(1) Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn
perthynas â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar neu ar
ôl 1 Ebrill 2014.
(2) Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
4 Rhagfyr 2013
YR ATODLEN Rheoliad 2
“SCHEDULE 4
ADULT POPULATION FIGURES
Billing authority area |
Prescribed figure |
Blaenau Gwent |
55,660 |
Bridgend |
110,834 |
Caerphilly |
139,761 |
Carmarthenshire |
146,779 |
Cardiff |
276,824 |
Ceredigion |
63,408 |
Conwy |
93,634 |
Denbighshire |
74,777 |
Flintshire |
120,348 |
Gwynedd |
98,397 |
Isle of Anglesey |
56,447 |
Merthyr Tydfil |
46,439 |
Monmouthshire |
73,144 |
Neath Port Talbot |
112,032 |
Newport |
112,919 |
Pembrokeshire |
98,021 |
Powys |
107,174 |
Rhondda Cynon Taf |
185,566 |
Swansea |
192,893 |
Torfaen |
71,767 |
Vale of Glamorgan (The) |
99,722 |
Wrexham |
106,615 ” |
([1]) 1988 p.41. Diwygiwyd adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p.41) a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 i'r Ddeddf honno gan adran 5 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17) a Rhan 1 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno.
([2]) O.S. 1992/3238, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (Cy.47), 2000/3382 (Cy.220), 2001/3910 (Cy.322), 2002/3054 (Cy.289), 2003/3211 (Cy.304), 2004/3232 (Cy.280), 2005/3345 (Cy.259), 2006/3347 (Cy.307), 2007/3343 (Cy.295), 2008/2929 (Cy.258), 2009/3147 (Cy.274), 2010/2889 (Cy.239), 2011/2610 (Cy.283) a 2012/3036 (Cy.310).